Skip to Content
Published: 2 Jun 2023

Cwestiynau Cyffredin Ailddylunio Gwobr John Muir

Rydym wedi ysgrifennu’r Cwestiynau ac Ymatebion Cyffredin hyn i helpu i rannu ein cynlluniau cyffrous i ailddylunio Gwobr John Muir

Cysylltwch â ni i roi gwybod sut gallwch chi helpu ailddylunio’r Wobr, ac/neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

Cynnwys

C1. Sut mae’r Wobr John Muir yn ffitio i waith Ymddiriedolaeth John Muir?

C2. Pam mae’r Wobr yn cael ei hailddylunio?

C3. Sut gallwn ni gymryd rhan?

C4. Pa gymorth fydd ar gael i’r rhai sy’n darparu a/neu’n cyflawni’r Wobr yn ystod 2023?

C5. Rydym yn awyddus i gofrestru Gwobr nawr; fyddwn ni’n gallu gwneud hynny?

C6. Rydym eisoes wedi cyflawni Gwobr; a fydd ein llwyddiannau’n werthfawr o hyd yn dilyn lansio’r Wobr wedi’i hailddylunio?

C7. Mae’r Wobr John Muir yn ein helpu i fodloni ein targedau cyllid a deilliannau sefydliadol ein hunain - a fydd hyn yn newid?

C8. Mae gan fy sefydliad dargedau cyllid eisoes ar gyfer 2023 ar sail cyflawni’r Wobr John Muir - beth ddylen ni ei wneud?

C9. A yw hyfforddiant Gwobr John Muir dal ar gael?

Cwestiynau Cyffredin

C1. Sut mae’r Wobr John Muir yn ffitio i waith Ymddiriedolaeth John Muir?

Mae Gwobr John Muir yn dal i fod yn rhan allweddol o’n hymgysylltiad, i’n helpu i gyrraedd mwy o bobl i werthfawrogi a helpu i eirioli lleoedd gwyllt. Mae’n creu partneriaethau, cysylltiadau, cyrhaeddiad ledled y DU, ac i lawer, dyma’r cyflwyniad cyntaf i gysyniad lleoedd gwyllt. Gall symud ymlaen drwy’r Wobr ysbrydoli pobl tuag at angerdd am oes i brofi, amddiffyn ac adfer gwylltineb a lleoedd gwyllt.

C2. Pam mae’r Wobr yn cael ei hailddylunio?

I nodi 25 mlynedd ers i’r Ymddiriedolaeth lansio Gwobr John Muir, rydym yn edrych ymlaen at ei hadnewyddu - gan adeiladu ar ei lwyddiant, sicrhau ei fod yn dal i fod yn berthnasol a pharatoi ar gyfer bywyd dyfodol.

Ein nod yw ei halinio â’n gwaith ehangach - yn enwedig i helpu i nodi’n gliriach yr effaith ar bobl a lleoedd; nodi a chyfleu buddion costau; creu cysylltiadau hirsefydlog â chyfranogwyr, darparwyr a phartneriaid, a chreu rhagor o gamau gweithredu ac eiriolaeth ar gyfer lleoedd gwyllt. Rydym eisiau ei gwella.

C3. Sut gallwn ni gymryd rhan?

Rydym yn gwahodd cyfranogwyr presennol a chyn-gyfranogwyr, darparwyr, partneriaid, cefnogwyr a chyllidwyr i’n helpu i greu’r fersiwn orau posibl o’r Wobr ar ei newydd wedd.

Gallai hyn olygu helpu’r Ymddiriedolaeth: cyd-greu a pheilota cenhedlaeth nesaf y Wobr; rhannu mewnwelediad a phrofiad ar fesur effaith (yn enwedig cysylltedd â natur; iechyd a lles; gweithredu ac eirioli dros leoedd gwyllt); cyfeirio neu gynnig cymorth cyllidol i’n helpu i brofi, treialu a datblygu Gwobr wedi’i hailddylunio.

Cysylltwch â ni i roi gwybod sut gallwch chi helpu ailddylunio’r Wobr, ac/neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

C4. Pa gymorth fydd ar gael i’r rhai sy’n darparu a/neu’n cyflawni’r Wobr yn ystod 2023?

Bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i gefnogi’r Wobr bresennol hyd nes haf 2024, gan gynnwys cofrestru gweithgareddau a thystysgrifau cyflawni. Byddwn yn rhoi’r diweddaraf i chi ar datblygiadau, drwy ein cylchlythyrau e-fwletin am ddim, cyfryngau cymdeithasol @JohnMuirTrust, ac ar ein gwefan. Rydym yn fodlon ateb unrhyw gwestiynau gennych chi neu eraill yn eich sefydliad yma.

C5. Rydym yn awyddus i gofrestru Gwobr nawr; fyddwn ni’n gallu gwneud hynny?

Byddwch, ni fyddwn yn dirwyn y model Gwobr presennol i ben nes y byddwn yn barod i lansio Gwobr ar ei newydd wedd. Ewch i’n tudalennau ar-lein Gwobr John Muir i gael gwybod am y Wobr, canllaw addasrwydd a sut i gymryd rhan.

C6. Rydym eisoes wedi cyflawni Gwobr; a fydd ein llwyddiannau’n werthfawr o hyd yn dilyn lansio’r Wobr wedi’i hailddylunio?

Bydd, bydd llwyddiannau Gwobr presennol yn dal i ddangos profiadau gwerthfawr o gysylltu â natur, mwynhau natur a gofalu am leoedd wyllt. Ni fydd unrhyw newid yn dadwneud yr hyn mae cyfranogwyr wedi’i gyflawni, a beth mae darparwyr y Wobr wedi’i gynnig.

C7. Mae’r Wobr John Muir yn ein helpu i fodloni ein targedau cyllid a deilliannau sefydliadol ein hunain - a fydd hyn yn newid?

Rydym yn gwybod mai un o’r rhesymau y mae llawer o’n partneriaid yn gwerthfawrogi’r wobr John Muir yw oherwydd ei bod yn cryfhau ceisiadau am gyllid. Wrth inni ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o’r Wobr John Muir, rydym yn edrych ymlaen at y cyfleoedd i gyd-greu a chyd-ddylunio gwaith ymgysylltu gyda’n partneriaid presennol a phartneriaid newydd.

Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech archwilio’r potensial o gydweithio.

C8. Mae gan fy sefydliad dargedau cyllid eisoes ar gyfer 2023 ar sail cyflawni’r Wobr John Muir - beth ddylen ni ei wneud?

Ni ddylai’n cynlluniau i adnewyddu’r Wobr effeithio arnoch chi. Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth os oes gennych unrhyw gwestiynau.

C9. A yw hyfforddiant Gwobr John Muir dal ar gael?

I helpu i ganolbwyntio ein hamser staff a’n harbenigedd o ran adnewyddu’r Wobr, rydym yn gohirio ein cynnig hyfforddiant ledled y DU (oni bai bod hyfforddiant eisoes wedi’i gytuno).

Fodd bynnag, rydym wedi dylunio rhai adnoddau i helpu: